Dad-adeiladwch DataViz

Adeiladwch eich sgiliau gweledol drwy ddatod delweddiad enghreifftiol

Sefydlu

Bydd y gweithgaredd hwn yn cymryd 15 i 20 munud. Dylai fod gennych chi'r deunyddiau hyn wrth law:

1

Cefndir

Mae dweud eich stori gyda data yn anodd ei wneud. Mae'n dibynnu ar set amrywiol o sgiliau - prosesu data, dylunio graffig, dweud stori, a mwy. Mae'r gweithgaredd hwn yn eich helpu i feithrin y sgiliau hynny drwy ddatgymalu gwaith mae pobl eraill wedi'i wneud (y da a'r drwg) i ddatblygu'ch llygad feirniadol. Byddwch chi'n helpu cyfranogwyr i ddadansoddi a thrafod pedwar peth am ddelweddu - (1) y data mae'n ei ddefnyddio, (2) y ffordd mae'n dangos y data hwnnw, (3) y naratif mae'n ceisio ei gyfleu, a (4) gwerthuso a yw'n cyfuno'r rheiny i ddweud y stori data yn dda.

2

Cychwyn y Gweithgaredd

Dechreuwch drwy ddosbarthu copïau o'r graffeg rydych chi wedi'i dewis a rhoi ychydig o gefndir ei chyd-destun. Er enghraifft, cafodd graffig Chwaraeon Cymru ei gomisiynu i gyd-fynd â chyhoeddiad adroddiad Gweithredu Heddiw dros Yfory Egnïol, a gafodd ei gynhyrchu gan Grŵp Ymgynghorol Chwaraeon Cymru yn 2014. Mae'n rhoi manylion y tueddiadau allweddol a fydd yn effeithio ar chwaraeon yng Nghymru.

Rhowch funud neu ddwy i'r cyfranogwyr adolygu'r daflen gyda'i gilydd. Peidiwch â rhoi gormod o amser iddyn nhw - rydych chi am weld eu hadweithiau cyntaf.

3

Arweiniwch Sgwrs

Ar ôl i gyfranogwyr edrych dros y delweddiad, gofynnwch gyfres o gwestiynau iddyn nhw. Ceisiwch gadw ffocws y drafodaeth ar y cwestiynau archwiliadol hyn yn hytrach nag a yw'r delweddiad yn "dda" neu'n "ddrwg" (mae gwerthuso yn dod ar ôl archwilio). Yn gyntaf gofynnwch iddyn nhw adnabod rhai o'r setiau data a ddefnyddiwyd. Casglwch bedwar neu bum ateb gan y cyfranogwyr. Ar gyfer graffig Chwaraeon Cymru, mae'r rhain yn aml yn cynnwys atebion fel "amcanestyniadau poblogaeth" a "GDP". Yna siaradwch am sut mae dweud y storïau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i chi dynnu o setiau data lluosog; anaml iawn y gallwch chi lunio stori gryf gydag un daenlen yn unig.

Nesaf, gofynnwch i'r cyfranogwyr nodi sut mae'r data hwn yn cael ei gynrychioli. Casglwch ychydig o atebion. Er enghraifft, yn graffig Chwaraeon Cymru mae eiconau'n cael eu defnyddio i helpu pobl i ddeall beth mae'r data yn cyfeirio ato ac mae canrannau'n cael eu cynrychioli fel siartiau toesen.. Yn gryno trafodwch sut mae hyn yn sefydlu set gyson o siartiau a symbolau a dulliau o'u defnyddio. Ein henw ar hyn yw "geirfa weledol" y stori.

Yn drydydd, gofynnwch i'r cyfranogwyr nodi'r stori fer maen nhw'n meddwl bod y graffeg yma'n ceisio ei dweud. Beth ydy'r data a'r delweddu gweledol yn ceisio ei ddweud? Gofynnwch i bobl ei grynhoi mewn un frawddeg, fel y byddech chi mewn trydar. Yn enghraifft Chwaraeon Cymru mae'r mwyafrif o bobl yn meddwl bod y stori'n rhywbeth fel "Mae cymdeithas yn newid, mae'n rhaid i ni sicrhau bod darpariaeth chwaraeon yn addasu i fodloni'r heriau ac uchafu'r cyfleoedd" Ceisiwch gadw ffocws cyfranogwyr ar y stori, yn hytrach na'u barn amdani (dyna'r cam nesaf).

4

Rhowch y Cyfan At Ei Gilydd

I gloi, gofynnwch i bobl a ydyn nhw'n meddwl bod y stori'n cael ei dweud yn dda. Pa elfennau sy'n cefnogi'r stori orau? Oes darnau diangen nad ydyn nhw'n helpu llif y stori? Oes darnau sydd wir yn tynnu sylw i ffwrdd o'r prif bwynt neu'n ei wrthddweud? Yn enghraifft Chwaraeon Cymru canolbwyntiwch ar y neges gryfaf - beth ydy honno? Ydy hi'n cael ei phwysleisio'n ddigonol? Ydy hi'n datrys y broblem? Pwysleisiwch fod rhaid i ddweud y storïau hyn ganolbwyntio ar brif bwynt, a bod angen i bopeth arall ei ategu. Hyd yn oed os oes data cŵl rydych chi am ei gynnwys, mae angen i chi wneud yn siŵr ei fod yn cefnogi'r brif stori, fel arall bydd dim ond yn tynnu sylw i ffwrdd. Oes enghreifftiau o ddata a allai gael ei dynnu o stori Chwaraeon Cymru i'w gwneud yn fwy effeithiol?