Adeiladwch Gerflun Data

Defnyddiwch ddeunyddiau crefft ffisegol i ddweud stori data mewn 3D

Sefydlu

Bydd y gweithgaredd hwn yn cymryd 20 i 30 munud. Dylai fod gennych chi'r deunyddiau hyn wrth law:

  • Deunyddiau crefft lleol (caeadau poteli plastig, gwifren, peli blewog, papur lliw, blociau pren, papur adeiladu)
  • Tâp, glud, siswrn
  • PEIDIWCH â chynnwys peniau, crayonau, neu unrhyw beth arall i ysgrifennu ag ef (fel arall mae pobl dim ond yn darlunio yn hytrach nag adeiladu)
  • PEIDIWCH â chynnwys briciau LEGO (fel arall bydd pobl dim ond yn adeiladu siartiau bar)

Lawrlwythwch ac argraffwch yr arweiniad gweithgaredd

open laptopGoing Virtual?

Make sure to post the PDF handouts to the in-session virtual chat, or have just one on-screen via screen-share while people build. Don’t email them in advance; this can give curious folks a bit too much time to consider the data.

1

Cefndir

Mae'r syniad o chwarae gyda data yn newydd i'r mwyafrif o bobl. Mae'r gweithgaredd hwn yn gadael i bobl adeiladu cerfluniau'n gyflym sy'n dweud stori data syml gyda deunyddiau crefft. Mae'r ymagwedd chwareus at y data yn helpu i ennyn diddordeb y cyfranogwyr mewn meddwl am sut mae dod o hyd i storïau a'u cyflwyno'n gyflym, ac yn helpu pobl i deimlo mwy o ryddid a hyblygrwydd am gyflwyniadau data. Mae'n creu syniad o "gyflwyno" yn hytrach na "delweddu". Mae'r gweithgaredd hefyd yn adeiladu'r gallu i drosi geiriau a rhifau'n ffurfiau strwythurol. Yn ogystal, mae chwarae gyda'r deunyddiau hyn ar ddechrau gweithdy yn gallu chwalu dynameg pŵer a allai fodoli o fewn y grŵp.

Mae'r gweithgaredd hwn yn adeiladu ar addysgeg ac arddull gweithdy Lifelong Kindergarten Group MIT Media Lab (lle enillodd Rahul ei radd Meistr). Mae ganddo gysylltiadau hefyd â gwaith cynllunio trefol cyfranogol James Rojas.

2

Cychwyn y Gweithgaredd

Cyflwynwch y grŵp i ddau siart data “normal” cysylltiedig. Gall un fod yn ffaith sengl, a'r llall yn set wybodaeth o faint canolig. Os ydych chi'n gwneud eich rhai eich hun, gwnewch yn siwr eich bod yn osgoi data mae'r gynulleidfa yn ei adnabod yn rhy dda - gwelwn fod hynny'n arwain pobl i ymgolli yn y mân fanylion. Awgrymwn ddefnyddio data mwy generig neu lefel uchel. Dyma nifer o daflenni mae croeso i chi eu lawrlwytho, eu hargraffu, a'u defnyddio:

open laptopGoing Virtual?

Make sure to post the PDF handouts to the in-session virtual chat, or have just one on-screen via screen-share while people build. Don’t email them in advance; this can give curious folks a bit too much time to consider the data.

Gofynnwch i'r grŵp ymrannu'n barau, yn ddelfrydol gyda rhywun nad ydyn nhw'n eu hadnabod. Dangoswch i'r cyfranogwyr fwrdd canolog mawr sy'n llawn y deunyddiau rydych chi wedi eu casglu. Rhowch 6 munud iddyn nhw adeiladu cynrychiolaeth ffisegol sydyn o'r data a gyflwynoch chi'n gynharach. Peidiwch â rhoi gormod o amser iddyn nhw, neu fyddan nhw'n canolbwyntio gormod ar fanion yn hytrach na mynd ati i fod yn greadigol. Atgoffwch nhw eu bod yn greadigol, ac NAD yw siartiau bar â glanhawyr pib yn cael eu caniatáu!

Ar ôl 3 munud dwedwch wrthyn nhw y dylen nhw fod yn adeiladu erbyn hyn; gweithgaredd 'meddwl gyda'ch dwylo' yw hwn. Pan fydd ganddyn nhw un funud ar ôl, rhowch wybod iddyn nhw.

open laptopGoing Virtual?

Have each person build their own sculpture with the materials they have gathered. Put on some background music to make the silent building time less awkward. Make sure to announce when folks have just one minute left.

3

Gofynnwch i Bawb Rannu Eu Hadborth

Stopiwch bawb pan ddaw'r amser i ben. Rhowch 1 funud i bob grŵp rannu'r hyn maen nhw wedi'i wneud. Gallwch chi grynhoi drwy dynnu sylw at y tebygrwyddau a'r gwahaniaethau yn y darnau a wnaeth pobl. Yn aml byddwch yn gweld rhai pobl yn canolbwyntio ar un pwynt data, tra bod eraill yn edrych ar ddarlun ehangach. Gyda'r data Poblogaethau Adar Bridio yng Nghymru, gallech chi geisio uno'r ddwy set ddata neu ganolbwyntio ar un yn unig. Amlygwch unrhyw fersiynau ffisegol o siartiau traddodiadol i dynnu sylw at ba mor sefydledig mae ein technegau cyflwyno gweledol presennol! Ceisiwch nodi patrymau mewn sut cafodd y rhifau eu mapio i wrthrychau ffisegol.