Braslunio Stori

Defnyddio WordCounter i ddadansoddi geiriau caneuon cerddor a braslunio stori gyda'u geiriau

Sefydlu

Bydd y gweithgaredd hwn yn cymryd 30 i 45 munud. Dylai fod gennych chi'r deunyddiau hyn wrth law:

  • Taflunydd i ddangos y fideos hyn
  • Darnau mawr o bapur i dynnu lluniau arnyn nhw (2 droedfedd gan 3 troedfedd sydd orau)
  • Crayonau trwchus neu farcwyr o wahanol liwiau
  • Ffôn, llechen, neu gyfrifiadur sy'n gysylltiedig â'r rhyngrwyd am bob grŵp bach o 3 pherson
  • Yn bwriadu dangos y fideos all-lein? Cliciwch yma i'w lawrlwytho ymlaen llaw.

Lawrlwythwch ac argraffwch yr arweiniad gweithgaredd

1

Cychwyn y Gweithgaredd

Mae'n anodd symud o ddata i stori. Mae'r gweithgaredd hwn yn gadael i chi wneud hynny'n gyflym drwy ddadansoddi setiau data i ddod o hyd i batrymau mewn testun, ac yna braslunio stori rydych chi'n dod ar ei thraws. Mae'n cyflwyno terminoleg sylfaenol am ddadansoddi testun yn feintiol, yn eich helpu i ddod yn gyfarwydd ag offeryn WordCounter Databasic.io, ac yn eich annog i ystyried mannau yn eich sefydliad lle rydych chi'n gweithio gyda testun fel data. Bydd cyfranogwyr yn ffurfio parau gyda chydweithwyr i chwilio am storïau mewn tipyn o ddata enghreifftiol difyr ac yn tynnu braslun i rannu'r stori honno. Dechreuwch y gweithgaredd drwy chwarae'r fideo cychwyn isod i'ch grŵp.

WordCounter

Cyflwynwch y gweithgaredd ac yna rhowch tua 15 munud i bobl fraslunio. Pan fydd 10 munud ar ôl rhowch wybod iddyn nhw y dylen nhw fod wedi dewis set ddata i weithio gyda hi. Pan fydd ganddyn nhw 5 munud ar ôl, gwnewch yn siŵr bod ganddyn nhw stori a'u bod wrthi'n braslunio ar bapur, fel arall byddan nhw'n rhuthro i gwblhau llun.

2

Gofynnwch i Bawb Rannu Eu Hadborth

Chwaraewch y fideo hwn ar ôl i bob grŵp bach fraslunio eu stori ar ddalen fawr o bapur. Yma rydym ni'n amlinellu rhai cwestiynau i'w trafod wrth i bob grŵp ddisgrifio'r stori a welon nhw. Er enghraifft, byddwch chi'n dymuno cymryd nodyn o storïau ar sail cymharu dau beth yn erbyn y rhai sy'n seiliedig ar un pwynt data sengl, diddorol. A gallwch chi gychwyn trafodaeth am sut defnyddiodd grwpiau baramedrau gweledol – fel lliw, maint a safle – i gyfathrebu eu stori.

3

Dewch â'r Sesiwn i ben a siaradwch am y Camau Nesaf

Nawr bod pawb wedi dadansoddi testun a braslunio stori, bydd y fideo hwn yn helpu pobl i feddwl am ble i fynd oddi yma. Er enghraifft, beth yw rhai setiau data testun sydd gan eich sefydliad wrth law yn barod? Trafodwn rai dulliau mwy soffistigedig o ddadansoddi testun yn feintiol yn ogystal â thynnu sylw at rai baglau cyffredin i geisio eu hosgoi.