Gofyn Cwestiynau Da

Dysgwch sut i symud o daenlen i stori gyda WTFcsv

Sefydlu

Bydd y gweithgaredd hwn yn cymryd 30 i 45 munud. Dylai fod gennych chi'r deunyddiau hyn wrth law:

  • Cysylltiad sylfaenol â'r rhyngrwyd
  • Ffôn, llechen, neu gyfrifiadur am bob grŵp bach o 3 pherson
  • 1 copi printiedig fesul grŵp: Argraffu taflen WTFcsv
  • Papur & pheniau
  • Yn bwriadu dangos y fideos all-lein? Cliciwch yma i'w lawrlwytho ymlaen llaw.

Lawrlwythwch ac argraffwch yr arweiniad gweithgaredd

1

Cychwyn y Gweithgaredd

Yn gynyddol, mae data'n cyrraedd ar garreg ein drws ar ffurf taenlen. Mae rhywun yn anfon ffeil Excel atoch chi neu rydych chi'n lawrlwytho rhywbeth o'r we. Yn y gweithgaredd hwn, byddwch chi'n gweithio gyda'ch cydweithwyr i ofyn cwestiynau da i daenlen er mwyn i chi ei chymryd o bwyntiau data i stori data. Byddwch chi'n defnyddio offeryn WTFcsv Databasic.io, yn dod yn gyfarwydd â mathau o ddata, ac yn gwneud rhywfaint o ddadansoddi sylfaenol taenlen. Mae 'csv' yn sefyll am werthoedd a wahanir â chomma, fformat cyffredin taenlen ar y we. Mae WTF yn sefyll am... wel... y cwestiwn a ofynnwch chi pan fydd rhywun yn anfon ffeil csv dyrys atoch chi.

Defnyddiwch WTFcsv nawr

Yn y gweithgaredd hwn bydd y cyfranogwyr yn taflu syniadau am gwestiynau i'w gofyn i setiau data enghreifftiol ar sail crynodebau o ddata colofnau. Gweithiwch mewn grwpiau o 2-3 am dua 10 munud gyda'r data. Ar y diwedd rhowch funud iddyn nhw ddewis y cwestiwn gorau a'i ysgrifennu ar y daflen, gan ddangos y cwestiwn, unrhyw ddata arall y gall fod arnyn nhw ei angen i'w ateb, a sut fyddan nhw'n cael hyd i'r data hwnnw. Dechreuwch y gweithgaredd drwy chwarae'r fideo cychwyn isod i'ch grŵp, sy'n esbonio hyn i gyd.

2

Gofynnwch i Bawb Rannu Eu Hadborth

Chwaraewch y fideo hwn ar ôl i bob grŵp bach ysgrifennu eu cwestiynau ar y daflen WTFcsv. Yma rydym ni'n amlinellu rhai pethau i'w trafod wrth i bob grŵp ddisgrifio eu cwestiynau a'r broses i'w dilyn o bosib i ddechrau eu hateb. Er enghraifft, rydych chi eisiau dilysu grwpiau a ofynnodd 'meta gwestiynau', fel 'o ble mae'r data hwn yn dod?' neu 'allwn ni ymddiried yn y data hwn?' yn ogystal â grwpiau a ddechreuodd ofyn cwestiynau am batrymau a welon nhw yn y data ei hun. Os bydd grwpiau'n gofyn cwestiynau am batrymau mewn data, gofynnwch iddyn nhw gymryd cam tuag at eu hateb. Pa ddata arall byddai ei angen arnyn nhw i ateb eu cwestiynau? Pwy sy'n casglu'r data hwnnw?

3

Dewch â'r Sesiwn i ben a siaradwch am y Camau Nesaf

Nawr eich bod wedi gwneud tipyn o ddadansoddi taenlen sylfaenol, bydd y fideo hwn yn eich helpu i feddwl am ble i fynd oddi yma. Er enghraifft, pa wybodaeth yn eich sefydliad sy'n cael ei chipio ar ffurf taenlen? Allech chi ddefnyddio'r un dull gyda data canlyniadau arolwg? Gyda data ariannol? Gyda rhestri o roddwyr neu ddadansoddeg we? Sut all gofyn i grwpiau feddwl am gwestiynau eich helpu i gymryd y cam nesaf gyda data'ch sefydliad? Rydym hefyd yn trafod rhai baglau cyffredin i geisio eu hosgoi, fel cofio ystyried allanolion a chadw mewn cof nad yw cydberthynas yn hafal ag achos.