Llenwch Daenlen Bapur

Cyflwynwch bobl i ddata, ac i'w gilydd

Sefydlu

Bydd y gweithgaredd hwn yn cymryd 20 munud. Dylai fod gennych chi'r deunyddiau hyn wrth law:

1

Cefndir

Cyn dechrau dadansoddi a dweud storïau gyda data, mae'n rhaid i chi ddeall beth yw data a sut mae ei lanhau cyn y gallwch chi ei ddefnyddio. Adeiladwch daenlen bapur gyda'ch gilydd i gyflwyno newydd-ddyfodiaid annhechnegol i gysyniadau fel “data”, “setiau data”, “mathau o ddata” a “data glân.” Mae'r gweithgaredd yma hefyd yn cyflwyno'r cyfranogwyr i ystyriaethau moeseg a phreifatrwydd mewn data. Mae'n ddull o dorri'r iâ ar ddechrau sesiwn i gyflwyno cyfranogwyr i'w gilydd.

2

Cychwyn y Gweithgaredd

Cyn y gweithgaredd, crëwch eich taenlen bapur ar ddarn mawr o bapur rhwyllog. Crëwch o leiaf bum colofn i gipio mathau gwahanol o wybodaeth bersonol. Y peth gorau yw cynnwys colofnau am bob prif fath o ddata, er enghraifft:

  • ‘Enw cyntaf’ am ddata ansoddol
  • ‘Tref enedigol’ am ddata daearyddol
  • ‘Lliw Eich crys’ am data categoraidd
  • ‘Sawl Brawd a Chwaer sydd Gennych’ am ddata meintiol
  • ‘Dydd a Mis Eich Pen-blwydd’ am ddata amserol
  • ‘Disgrifiwch unrhyw brofiad sydd gennych gyda data’ am destun agored fel data

Dylech chi ddewis cwestiynau eraill sy'n fwy perthnasol i'ch cynulleidfa chi, ond gwnewch yn siŵr nad ydych chi'n casglu gwybodaeth bersonol sensitif neu unrhyw beth a allai beri embaras. Na, o ddifrif, r'yn ni'n golygu hynny! Mae'n hawdd iawn gofyn cwestiwn yn ddamweiniol sy'n datgelu gormod mewn ffordd amhriodol.

Atodwch y daenlen i'r wal cyn dechrau'r sesiwn. Wrth i gyfranogwyr gyrraedd, gofynnwch iddyn nhw lenwi rhes amdanynt eu hunain, ond peidiwch â'u gorfodi i wneud os ydyn nhw'n dewis peidio.

Gadewch ddigon o amser i'r holl gyfranogwyr lenwi'r daenlen. Pan fyddwch chi'n barod i ddechrau, gwahoddwch gwpl o wirfoddolwyr i gyflwyno eu hunain gan ddefnyddio'r wybodaeth a ysgrifennon nhw. Dylai'r rhain fod yn gyflwyniadau byr sy'n rhoi ychydig yn fwy o gefndir i'r hyn a ysgrifennon nhw; dim ond munud neu ddwy.

3

Arweiniwch Sgwrs

Arweiniwch eich grŵp mewn trafodaeth am y “set ddata” maen nhw wedi'i chreu. Pwysleisiwch fod data yn arsylwadau am y byd sy'n cael eu casglu'n systematig. Ar yr un pryd, mae casglu data yn gofyn am ryw fath o leihad defnyddiol o'r byd, felly nid dyma'r gair olaf ac efallai na fydd yn cwmpasu popeth mae angen i chi ei wybod i ateb unrhyw gwestiynau. Gallwch chi archwilio hyn drwy ofyn nifer o gwestiynau i'ch grŵp ynghylch y Daenlen Bapur:

  • Ydy'r lliwiau a nododd pobl yn cipio'n fanwl gywir holl wead a chynildeb eu ffabrig? Er enghraifft, petai rhywun yn gwisgo crys rhesog, beth rhoddon nhw yn y golofn 'lliw crys'?
  • Ydy'r cwestiynau hyn yn cipio digon am bwy ydy pob person i'w ddadansoddi?
  • Beth sydd ar goll a allai ein helpu i ddefnyddio'r set ddata yma?

Hefyd amlygwch y gwahanol fathau o ddata mae'r Daenlen Bapur yn eu cipio. Gallwch chi ofyn pethau fel:

  • Mae pobl yn meddwl am ddata yn aml fel dim ond rhifau, ond pa fathau eraill o ddata ydyn ni wedi eu cipio yma? Oes data amserol? Data daearyddol?
  • Mae rhifau'n hawdd eu hadio, symio, a chyfartaleddu; ym mha ddulliau eraill allen ni drefnu data nad yw'n rhifau? Er enghraifft, gallen ni blotio dyddiadau ar linell amser, neu leoliadau ar fap.

Nesaf, cyflwynwch beth mae angen ei wneud i lanhau a dweud storïau gyda'r data hwn. Gofynnwch i'r cyfranogwyr gwestiynau fel:

  • Os oeddech chi am fapio trefi genedigol pobl, sut allen ni wneud hynny? Er enghraifft, oes anghysondebau mewn sut ysgrifennodd pobl eu tref enedigol? Ac a wnaeth pawb ddehongli ystyr 'tref enedigol' yn yr un ffordd?
  • Pa fath o batrymau ydych chi'n eu gweld yn y cysondebau neu'r anghysondebau yn y data a gafodd ei gasglu? A wnaeth pawb lenwi pob colofn? A wnaeth unrhyw un *beidio* â rhoi eu hun ar y daenlen bapur?

Yn olaf, trafodwch ystyriaethau preifatrwydd, cydsyniad, a moeseg data. Gofynnwch i gyfranogwyr pethau fel:

  • Oedd unrhyw gwestiynau roeddech chi'n teimlo'n anghysurus yn ysgrifennu gwybodaeth amdanyn nhw?
  • Pwy fel arfer sydd â'r pŵer i benderfynu beth sy'n cael ei gipio mewn data?
  • Pwy sy'n penderfynu sut mae'r cwestiynau hynny'n cael eu gofyn a sut mae'r atebion yn cael eu dehongli?

4

Adolygwch Beth Rydych wedi ei Ddysgu

Adolygwch y pwyntiau allweddol yn y sgwrs rydych chi newydd ei gael. Atgoffwch y cyfranogwyr fod data yn arsylwadau systematig o'r byd, a set ddata yw'r casgliad o'r arsylwadau hynny. Mae data yn crynhoi'r byd yn ddefnyddiol, ond mae'n bwysig cadw mewn cof nad yw'n cipio popeth. Gall data gipio mathau gwahanol o wybodaeth (feintiol, ansoddol, amserol, ddaearyddol ac ati), ac mae math y data yn effeithio ar y math o archwilio a chanfod patrymau y gallwch ei wneud. Yn aml mae angen i ddata gael ei lanhau a safoni. Mae dweud storïau gyda data a'i ddadansoddi yn golygu chwilio am batrymau, gwneud cymariaethau, darganfod allanolion, ac yna rhoi prawf ar yr wybodaeth honno drwy drafodaeth ag eraill. Yn olaf, mae'r dull o gasglu a defnyddio data yn gallu codi cwestiynau am breifatrwydd, cydsyniad, a moeseg, y mae'n rhaid eu cymryd i ystyriaeth wrth ei ddadansoddi a'i gyflwyno..